Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cllr. Dilwar Ali ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Ebrill 2013, ar ôl casglu 1,119 o lofnodion ar-lein. |
Geiriad y ddeiseb
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli Cŵn
Cymru.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, ac sy’n byw yng Nghymru,
yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli
Cŵn (Cymru) i fynd i’r afael â phroblemau’n
ymwneud â chŵn peryglus a bygythiol, ac i beidio â
dibynnu ar gynigion tameidiog Llywodraeth y DU sydd wedi'u gosod
allan yn ei Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drafft. Cafwyd esboniad
cychwynnol o'r Bil hwn yn y Papur Gwyn “Putting Victims
First, More Effective Responses to Anti-social
Behaviour”.
Cytunwn â Llywodraeth Cymru sy’n dweud yn ei datganiad
fod Hysbysiad Rheoli Cŵn yn amlwg yn well na’r holl
ddeddfwriaeth bresennol gan nad oes angen mynd ag achosion gerbron
y llys ac, felly, mae llai o bwysau ar y pwrs cyhoeddus. Credwn
hefyd fod cynigion Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys pedwar dull
gorfodi gwahanol, sef-
· gwaharddebau i atal niwsans annoyance;
· gorchmynion ymddygiad troseddol
· pwerau gwasgaru
· hysbysiadau amddiffyn cymunedol
yn llawer rhy gymhleth, trwsgl a biwrocrataidd ac y byddant yn
arwain at oedi. Rhaid gwneud cais i’r llys cyn rhoi dau
ohonynt ar waith - gwaharddebau a gorchmynion ymddygiad
troseddol.
Credwn fod yr un Hysbysiad Rheoli Cŵn cynhwysfawr a gynigir i
Gymru yn ddull llawer iawn gwell ac rydym yn annog Llywodraeth
Cymru i lunio deddf sy’n seiliedig ar y cysyniad hwn yn unol
â’r bwriad gwreiddiol. Rydym yn tynnu sylw
Llywodraeth Cymru at y canlynol: (i) casgliadau hynod feirniadol
Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ynghylch adroddiad Pwyllgor yr
Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sef 'Rheoli Cŵn a Lles'
sy'n dweud bod cynigion Llywodraeth y DU yn 'rhy syml' ac yn
'resynus o annigonol'. Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod DEFRA
a'r Swyddfa Gartref yn cyflwyno Hysbysiadau Rheoli Cŵn a (ii)
y ffaith bod y cyrff sydd wedi uno yn yr ymgyrch, sef undebau,
elusennau anifeiliaid, yr heddlu a milfeddygon hefyd yn
anfodlon ar y cynigion.